CROESO
Dan 7
Dan 9
Dan 11 B
Dan 11 A
Dan 13 B
Dan 13 A
Dan 15
Dan 17
Newyddion

 

 

 Croeso i safwe Clwb Pel Droed Penrhosgarnedd

Llywydd: John Ogwen
Is-lywydd: Mrs Enyd Roberts
Cadeirydd: Glynne Roberts
Ysgrifennydd: Manon Griffiths
Trysorydd: Richard Williams
Swyddogion Cyhoeddusrwydd: Deiniol Jones/Lisa Jones
Swyddog Lles: David James 

Clwb Iau ar gyfer plant a phobl ifanc dan 17 oed yw CPD Penrhosgarnedd. Pentre ar gyrion dinas Bangor yw Penrhosgarnedd. Mae'r timau yn cystadlu yng Nghynghrair Gwyrfai ac yng Nghynghrair Ynys Mon.

Mae gan y clwb dimau dan 7, dan-9, dan 10, dan-11, dan 12, dan-13, dan-15 a dan-17.

Sefydlwyd y clwb ar ddechrau'r '90au i gymryd rhan yng nghystadlaethau'r Urdd, ond yn nhymor 1995-1996 ymaelododd y clwb a Chynghrair Gwyrfai. Yn y tymor cyntaf hwn roedd tim dan-9 a thim dan-11 yn cynrhychioli'r clwb. Daeth cymaint a 40 o chwaraewyr i'r sesiynau ymarfer yn ystod y flwyddyn gyntaf, ond arwydd o'r twf a fu yw bod 147 o hogia' a genethod wedi cynrhychioli'r clwb yn ystod tymor 2000-2001.

Mae'r clwb yn chwarae ei gemau gartref ar gaeau Ysgol Coed Menai yn Nhreborth trwy garedigrwydd y Pennaeth a Llywodraethwyr yr Ysgol.